Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau. Bara heb furum ynddo wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew, a bara wedi ei wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi ei socian mewn olew.