Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:24-30 beibl.net 2015 (BNET)

24. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

25. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn.

26. Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r aberth sydd i'w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef yn iard y Tabernacl.

27. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y cig fod wedi ei gysegru. Os ydy gwaed yr aberth yn sblasio ar wisg yr offeiriad, rhaid golchi'r dilledyn mewn lle sydd wedi ei gysegru.

28. Rhaid i unrhyw lestr pridd gafodd ei ddefnyddio i ferwi'r cig gael ei dorri wedyn. Ond os ydy'r cig yn cael ei ferwi mewn llestr pres, rhaid ei sgwrio ac wedyn ei rinsio mewn dŵr.

29. Dim ond yr offeiriaid, sef y dynion, sy'n cael ei fwyta. Mae'n gysegredig iawn.

30. Ond os ydy peth o'r gwaed wedi cael ei gymryd i'r cysegr yn y Tabernacl i wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw, dydy'r offrwm hwnnw dros bechod ddim i gael ei fwyta. Rhaid i hwnnw gael ei losgi'n llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6