Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:18-26 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dim ond y dynion sy'n ddisgynyddion i Aaron sy'n cael ei fwyta. Dyma eu siâr nhw bob amser. Rhaid i unrhyw un sy'n cyffwrdd y bara fod wedi ei gysegru.”

19. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

20. “Dyma'r offrwm mae offeiriad i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD pan mae'n cael ei ordeinio: mae'r un fath a'r offrwm sy'n cael ei wneud fore a nos bob dydd, sef hanner cilogram o'r blawd gwenith gorau

21. wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a'i grasu ar radell. Rhaid iddo fod wedi ei socian mewn olew, ei dorri yn ddarnau, a'i gyflwyno yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

22. Yr Archoffeiriad sydd i'w baratoi. Siâr yr ARGLWYDD ydy hwn bob amser, ac mae i gael ei losgi'n llwyr ar yr allor.

23. Mae'r offrwm grawn sy'n cael ei roi gan offeiriad i gael ei losgi'n llwyr. Dydy e ddim i gael ei fwyta.”

24. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

25. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion mai dyma'r drefn gyda'r offrwm i lanhau o bechod: Mae'r offrwm i lanhau o bechod i gael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd. Mae'n gysegredig iawn.

26. Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r aberth sydd i'w fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru, sef yn iard y Tabernacl.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6