Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Pan mae rhywun yn troseddu yn fy erbyn i yr ARGLWYDD trwy dwyllo person arall, dyma sydd raid ei wneud:“Os ydy rhywun yn gwrthod rhoi rhywbeth sydd yn ei ofal yn ôl. Neu os ydy e'n gwrthod talu benthyciad yn ôl. Neu os ydy e wedi dwyn rhywbeth. Neu os ydy e wedi gwneud elw ar draul rhywun arall.

3. Neu os ydy e wedi dod o hyd i rywbeth ac yn honni nad ydy'r peth hwnnw ganddo. Pan mae person yn dweud celwydd am unrhyw un o'r pethau yma, mae e'n pechu.

4. Os ydy e wedi ei gael yn euog o wneud unrhyw un o'r pethau yma, rhaid iddo dalu'n ôl beth bynnag oedd e wedi ei ddwyn.

5. Rhaid iddo dalu'r swm yn ôl yn llawn, ac ychwanegu 20%. Mae i'w dalu i'r person gafodd ei dwyllo ganddo pan mae wedi cael ei ddedfrydu'n euog o'r drosedd.

6. Wedyn rhaid iddo fynd ag offrwm i'r ARGLWYDD i gyfaddef ei fai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno; neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd gyda arian swyddogol y cysegr.

7. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am beth bynnag wnaeth e o'i le.”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6