Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd brasder y ddafad (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Ac wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor gyda'r offrymau sydd i'w llosgi i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.