Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:26-33 beibl.net 2015 (BNET)

26. Bydd yn llosgi'r brasder i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda brasder yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

27. “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.

28. Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o'i le arni i'w haberthu dros ei bechod.

29. Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben yr afr sydd i'w haberthu, ac wedyn ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm sydd i'w losgi yn cael ei ladd).

30. Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi ar gyrn yr allor i losgi offrymau gyda'i fys. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.

31. Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd brasder yr anifail (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r brasder ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

32. “Os ydy e'n dod â dafad yn offrwm dros ei bechod, rhaid iddi fod yn ddafad heb ddim byd o'i le arni.

33. Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben y ddafad sydd i'w haberthu, ac yna ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd).

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4