Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:16-28 beibl.net 2015 (BNET)

16. Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.

17. Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen.

18. Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.

19. Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor.

20. Wedyn mae i wneud yr un peth gyda'r tarw yma ag a wnaeth gyda'r tarw gafodd ei offrymu dros ei bechod ei hun. Bydd yr archoffeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y bobl a Duw, a bydd Duw yn maddau iddyn nhw.

21. Bydd e'n mynd â gweddill y tarw tu allan i'r gwersyll. Bydd e'n ei losgi yr un fath â'r tarw arall. Mae'n offrwm i lanhau pobl Israel o bechod.

22. “Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.

23. Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae wedi ei wneud, mae i fynd â bwch gafr heb ddim byd o'i le arno i'w aberthu.

24. Rhaid iddo osod ei law ar ben y bwch gafr ac wedyn ei ladd o flaen yr ARGLWYDD (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd). Mae'n offrwm i'w lanhau o'i bechod.

25. Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi ar gyrn yr allor i losgi offrymau gyda'i fys. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.

26. Bydd yn llosgi'r brasder i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda brasder yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

27. “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.

28. Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o'i le arni i'w haberthu dros ei bechod.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4