Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 25:46-53 beibl.net 2015 (BNET)

46. Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon.

47. “Dwedwch fod un o'r mewnfudwyr, rhywun sydd ddim yn un o bobl Israel, yn llwyddo ac yn dod yn gyfoethog iawn. Mae un o bobl Israel sy'n byw yn yr un ardal yn colli popeth, ac mor dlawd nes ei fod yn gwerthu ei hun yn gaethwas i'r person sydd ddim yn dod o Israel, neu i un o'i deulu.

48. Mae'n dal ganddo'r hawl i brynu ei ryddid. Gall un o'i frodyr brynu ei ryddid,

49. neu ewyrth neu gefnder, neu'n wir unrhyw un o'r teulu estynedig. Neu os ydy e'n llwyddo i wneud arian, gall brynu ei ryddid ei hun.

50. Dylai dalu am y blynyddoedd sydd rhwng y flwyddyn wnaeth e werthu ei hun a blwyddyn y rhyddhau mawr. Dylai'r pris fod yr un faint â beth fyddai gweithiwr yn cael ei gyflogi wedi ei ennill y blynyddoedd hynny.

51. Os oes nifer fawr o flynyddoedd i fynd bydd y pris yn uchel,

52. ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl bydd y pris yn is.

53. Mae i gael ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi bob blwyddyn, a dydy e ddim i gael ei drin yn greulon.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 25