Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 25:29-46 beibl.net 2015 (BNET)

29. “Os ydy rhywun yn gwerthu tŷ mewn tref sydd â wal o'i chwmpas, mae ganddo hawl i brynu'r tŷ yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo ei werthu.

30. Os nad ydy'r tŷ yn cael ei brynu'n ôl o fewn blwyddyn, mae'r prynwr a'i deulu yn cael cadw'r tŷ am byth. Fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr.

31. Ond mae tŷ mewn pentref agored (sydd heb wal o'i gwmpas) i gael ei drin yr un fath â darn o dir. Mae'r un hawliau i'w brynu'n ôl, a bydd yn mynd yn ôl i'r perchennog gwreiddiol ar flwyddyn y rhyddhau mawr.

32. “Mae'r sefyllfa'n wahanol i'r Lefiaid. Mae ganddyn nhw hawl i brynu tai sy'n eu trefi nhw yn ôl unrhyw bryd.

33. Bydd unrhyw dŷ sydd wedi cael ei werthu yn un o'i trefi nhw, yn cael ei roi'n ôl iddyn nhw ar flwyddyn y rhyddhau, am mai'r tai yma ydy eu heiddo nhw.

34. A dydy tir pori o gwmpas trefi y Lefiaid ddim i gael ei werthu. Nhw sydd biau'r tir yna bob amser.

35. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn methu cynnal ei hun, rhaid i chi ei helpu, yn union fel y byddech chi'n gofalu am rywun o'r tu allan neu am ymwelydd.

36. Peidiwch cymryd mantais ohono neu ddisgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad. Rhaid i chi ddangos parch at Dduw drwy adael i'r person ddal i fyw yn eich plith chi.

37. Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.

38. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.

39. “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas.

40. Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr.

41. Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo.

42. Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision.

43. Peidiwch bod yn greulon wrthyn nhw. Dangoswch barch at eich Duw.

44. “Os oes gynnoch chi eisiau dynion neu ferched yn gaethweision, dylech chi eu prynu nhw o'r gwledydd eraill sydd o'ch cwmpas.

45. Cewch brynu plant mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi hefyd – hyd yn oed y rhai sydd wedi eu geni a'u magu yn eich gwlad chi. Gallan nhw fod yn eiddo i chi.

46. Cewch eu pasio ymlaen i'ch plant yn eich ewyllys hefyd. Cewch eu cadw nhw yn gaethweision am byth. Ond cofiwch, does gan neb hawl i drin un o bobl Israel yn greulon.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 25