Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 23:9-24 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,

10. “Dywed wrth bobl Israel:“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei roi i'r offeiriad.

11. Ar y diwrnod ar ôl y Saboth mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi.

12. Ar y diwrnod hwnnw hefyd rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn aberth i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

13. Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gydag offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win.

14. Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi ei grasu, na bara wedi ei wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid ble bynnag fyddwch chi'n byw.

15. “Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r ARGLWYDD, rwyt i ddod ac offrwm arall o rawn newydd.

16. Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth.

17. Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf.

18. “Hefyd rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un.

19. Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i.

20. Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw – sef y ddau oen – a'u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda'r bara sydd wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi eu cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid.

21. Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidio gwneud gwaith fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.

22. “Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

23. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

24. “Dywed wrth bobl Israel: Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn, pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 23