Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:10-11-21 beibl.net 2015 (BNET)

10-11. “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta.

12. Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen.

13. Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta.

14. “Os ydy unrhyw un arall yn ddamweiniol yn bwyta'r offrymau sanctaidd, rhaid iddo dalu am y bwyd ac ychwanegu 20%.

15. Does neb i amharchu'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD.

16. Mae unrhyw un sydd ddim i fod i'w bwyta yn euog os ydyn nhw'n gwneud hynny. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eu cysegru nhw i mi fy hun.”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

18. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd: ‘Pan mae un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD – offrwm wrth wneud addewid, neu un sy'n cael ei roi i'r ARGLWYDD o wirfodd –

19. dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno – tarw ifanc, hwrdd neu fwch gafr.

20. Rhaid peidio cyflwyno anifail sydd â nam arno. Fydd Duw ddim yn ei dderbyn ar eich rhan chi.

21. “‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail – o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr – fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn rhaid iddo fod heb nam arno.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22