Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 22:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion fod rhaid iddyn nhw ddangos parch at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, fel eu bod nhw ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i. Fi ydy'r ARGLWYDD.

3. Dywed wrthyn nhw: O hyn ymlaen, os bydd unrhyw un ohonoch chi yn aflan am ryw reswm ac yn mynd yn agos at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan, a ddim yn cael dod yn agos ata i. Fi ydy'r ARGLWYDD.

4. “Does neb o ddisgynyddion Aaron sy'n diodde o glefyd heintus ar y croen neu glefyd ar ei bidyn i gael bwyta'r offrymau sanctaidd nes bydd e'n lân. A peidiwch cyffwrdd unrhyw beth sydd wedi ei wneud yn aflan (gan gorff marw, dyn sydd wedi gollwng ei had,

5. unrhyw anifail aflan neu greadur aflan arall, neu unrhyw berson sy'n aflan am unrhyw reswm o gwbl).

6. Bydd y dyn sy'n cyffwrdd rhywbeth felly yn aflan am weddill y dydd, a dydy e ddim i fwyta o'r offrymau sanctaidd nes bydd e wedi ymolchi mewn dŵr.

7. Bydd e'n lân ar ôl i'r haul fachlud. Mae'n iawn iddo fwyta'r offrymau sanctaidd wedyn – wedi'r cwbl dyna ei fwyd e.

8. “A peidiwch bwyta rhywbeth sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. Mae hynny'n eich gwneud chi'n aflan hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD.

9. Gwnewch beth dw i'n ei ddweud, rhag i mi eich cael chi'n euog ac i chi farw yn y cysegr am eich bod wedi ei halogi. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi'r offeiriaid.

10-11. “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta.

12. Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen.

13. Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 22