Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 21:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nag i rwygo ei ddillad.

11. Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.

12. Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.

13. Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf.

14. Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,

15. rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi ei gysegru e i mi fy hun.”

16. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

17. “Dywed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.

18. Neb sy'n ddall, yn anabl, gyda wyneb wedi ei anffurfio, neu ryw nam corfforol arall,

19. wedi torri ei goes neu ei fraich,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 21