1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron:“Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
2. Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf – mam, tad, merch, brawd,
3. neu chwaer ddibriod oedd heb ŵr i ofalu amdani.
4. Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo trwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny.
5. Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o'i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru.
6. Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a peidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy'n cyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD, sef bwyd i'w Duw. Maen nhw i fod wedi eu cysegru.
7. Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw.
8. Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
9. Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
10. “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nag i rwygo ei ddillad.
11. Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
12. Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
13. Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf.