Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 20:12-24 beibl.net 2015 (BNET)

12. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai.

13. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda dyn arall, mae'r ddau wedi gwneud peth ffiaidd. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.

14. Mae hefyd yn beth cwbl ffiaidd i ddyn gael rhyw gyda gwraig a'i mam. Y gosb ydy llosgi'r tri ohonyn nhw i farwolaeth. Does dim byd ffiaidd fel yma i ddigwydd yn eich plith chi.

15. Os ydy dyn yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Ac mae'r anifail i gael ei ladd hefyd.

16. Os ydy gwraig yn mynd at anifail i gael rhyw gydag e, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i'r wraig a'r anifail farw. Arnyn nhw mae'r bai.

17. Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi.

18. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi ei amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw.

19. Paid cael rhyw gyda chwaer dy fam neu chwaer dy dad. Mae gwneud hynny yn amharchu perthynas agos. Byddan nhw'n cael eu cosbi am eu pechod.

20. Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig ei ewythr, mae e'n amharchu ei ewythr. Maen nhw'n gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n marw heb gael plant.

21. Mae'n beth anweddus i ddyn gymryd gwraig ei frawd. Mae e'n amharchu ei frawd. Byddan nhw'n methu cael plant.

22. “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd, er mwyn i'r tir dw i'n mynd â chi i fyw ynddo beidio eich chwydu chi allan.

23. Peidiwch gwneud yr un fath â phobl y wlad dw i'n eu gyrru allan o'ch blaen chi. Roeddwn i'n eu ffieiddio nhw am wneud y fath bethau.

24. Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi eich dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 20