Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 2:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i'r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio'r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno.

2. Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o'r blawd gwenith a'r olew, a'r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

3. Mae'r offeiriaid, sef Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.

4. “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi ei bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew.

5. “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a dim burum.

6. Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.

7. “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei goginio mewn olew olewydd.

8. Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi ei baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor.

9. Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi yn ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

10. Mae'r offeiriaid, Aaron a'i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae'n gysegredig am ei fod yn rhan o'r offrwm gafodd ei losgi i'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 2