Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:2-17 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dywed wrth bobl Israel: Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd.

3. Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a'i dad.Rhaid i chi gadw fy Sabothau. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

4. Peidiwch troi cefn arna i ac addoli eilunod diwerth, na gwneud delwau o fetel tawdd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.

5. Pan fyddwch chi'n cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i chi ei gyflwyno mewn ffordd sy'n ei wneud yn dderbyniol.

6. Rhaid ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei aberthu neu'r diwrnod wedyn. Os oes peth ar ôl ar y trydydd diwrnod rhaid ei losgi.

7. Dydy e ddim i gael ei fwyta y diwrnod hwnnw. Mae'n gig sydd wedi ei halogi. Dydy e ddim yn dderbyniol i Dduw.

8. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei gosbi am bechu, am ei fod wedi trin rhywbeth sydd wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD yn sarhaus. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

9. Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl.

10. Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A paid mynd trwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di.

11. Paid dwyn.Paid dweud celwydd.Paid twyllo pobl eraill.

12. Paid defnyddio fy enw wrth gymryd llw rwyt ti'n mynd i'w dorri. Mae gwneud peth felly yn amharchu enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.

13. Paid cymryd mantais o bobl eraill neu ddwyn oddi arnyn nhw.Tala ei gyflog i weithiwr ar ddiwedd y dydd, paid cadw'r arian tan y bore.

14. Paid enllibio rhywun sy'n fyddar, neu osod rhywbeth o flaen rhywun sy'n ddall i wneud iddo faglu. Parcha Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.

15. Paid bod yn annheg wrth farnu. Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu.

16. Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs.Paid gwneud dim sy'n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy'r ARGLWYDD.

17. Paid dal dig yn erbyn rhywun. Os oes gen ti ddadl gyda rhywun, mae'n well delio gyda'r peth yn agored rhag i ti bechu o'i achos e.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19