Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:9-18 beibl.net 2015 (BNET)

9. Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi ei geni.

10. Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti!

11. Paid cael rhyw gyda merch dy lysfam.

12. Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad.

13. Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam.

14. Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi!

15. Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a dwyt ti ddim i gael rhyw gyda hi.

16. Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd.

17. Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig wyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd.

18. Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18