Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:24-30 beibl.net 2015 (BNET)

24. “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.

25. Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan.

26. Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.

27. (Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.)

28. Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath.

29. Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd yma, bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw

30. Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a peidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18