Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:13-28 beibl.net 2015 (BNET)

13. Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam.

14. Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi!

15. Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a dwyt ti ddim i gael rhyw gyda hi.

16. Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd.

17. Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig wyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd.

18. Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.

19. “Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf.

20. Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n ‛aflan‛.

21. “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.

22. Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud.

23. Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly'n dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.

24. “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.

25. Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan.

26. Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.

27. (Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.)

28. Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18