1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2. “Dywed wrth bobl Israel:“Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
3. Peidiwch gwneud yr un fath â phobl yr Aifft, ble roeddech chi'n arfer byw. Na'r un fath â phobl Canaan, ble dw i'n mynd â chi. Peidiwch dilyn eu harferion nhw.
4. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i'n ddweud wrthoch chi.
5. Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i. Y rhai sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn. Fi ydy'r ARGLWYDD.
6. “Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti.
7. Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi!
8. A paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad.
9. Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi ei geni.