Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 16:24-34 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae i ymolchi gyda dŵr mewn lle cysegredig, a rhoi ei wisgoedd offeiriadol yn ôl ymlaen. Yna mae i ddod allan ac offrymu'r offrwm i'w losgi drosto'i hun a'r offrwm i'w losgi dros y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddo'i hun â Duw a rhwng y bobl â Duw.

25. Yna mae i losgi braster yr aberthau dros bechod ar yr allor.

26. “Mae'r dyn wnaeth arwain y bwch gafr byw allan i Asasel yn yr anialwch, i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll.

27. Mae gweddillion y tarw ifanc a'r bwch gafr oedd yn offrymau dros bechod (eu gwaed nhw gafodd ei gymryd i wneud pethau'n iawn yn y Lle Mwyaf Sanctaidd) i'w cymryd tu allan i'r gwersyll i gael eu llosgi yno – y crwyn, y coluddion, a'r perfeddion.

28. Mae'n rhaid i bwy bynnag sy'n gwneud hyn olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll.

29. “Mae hyn i fod yn rheol i chi bob amser: Bob blwyddyn, ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis, dych chi i beidio bwyta a gwneud dim gwaith – pawb, yn bobl Israel ac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.

30. Dyma'r diwrnod pan mae pethau'n cael eu gwneud yn iawn drosoch chi, a pan dych chi'n cael eich gwneud yn lân. Byddwch yn cael eich glanhau o'ch holl bechodau yng ngolwg yr ARGLWYDD.

31. Mae i fod yn saboth – yn ddiwrnod o orffwys – i chi, a rhaid i chi beidio bwyta. Fydd y rheol yma byth yn newid.

32. Dim ond yr offeiriad sydd wedi ei gysegru a'i eneinio i gymryd lle ei dad fel archoffeiriad sydd i wneud pethau'n iawn, ac i wisgo'r wisg gysegredig o liain.

33. Bydd yn gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl a'r allor yn lân, ac yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r offeiriaid a phobl Israel i gyd.

34. Mae hyn i fod yn rheol am byth. Unwaith y flwyddyn bydd pethau'n cael eu gwneud yn iawn rhwng pobl Israel a Duw, a byddan nhw'n cael eu glanhau o'u holl bechodau.”Dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 16