Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 16:2-13 beibl.net 2015 (BNET)

2. a dweud wrtho:“Dywed wrth Aaron dy frawd ei fod e ddim yn cael mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd unrhyw bryd mae e eisiau, neu bydd e'n marw. Dyna ble fydda i'n ymddangos, mewn cwmwl uwch ben caead yr Arch, tu ôl i'r llen.

3. “Dyma sut mae e i fynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd: Rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc yn offrwm i'w lanhau o'i bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi.

4. Rhaid iddo ymolchi mewn dŵr gyntaf. Wedyn gwisgo'r crys lliain pwrpasol, y dillad isaf, y sash, a'r twrban, i gyd o liain. Dyma ei wisg gysegredig e.

5. Ar ran pobl Israel mae i fynd â dau fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a hwrdd yn offrwm i'w losgi.

6. “Bydd Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i gyd-offeiriaid a Duw.

7. Wedyn bydd yn mynd â'r ddau fwch gafr o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw.

8. Yno bydd yn taflu coelbren i ddewis pa un biau'r ARGLWYDD a pa un biau Asasel.

9. Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r bwch gafr cyntaf i'r ARGLWYDD yn offrwm i lanhau o bechod.

10. Mae bwch gafr Asasel i'w osod i sefyll yn fyw o flaen yr ARGLWYDD iddo wneud pethau'n iawn drwy gael ei anfon allan i Asasel yn yr anialwch.

11. “Mae Aaron yn cyflwyno'r tarw yn offrwm dros ei bechod ei hun, i wneud pethau'n iawn rhyngddo fe a'i deulu a Duw.

12. Wedyn mae i gymryd padell dân wedi ei llenwi gyda marwor poeth oddi ar yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, a dwy lond llaw o arogldarth persawrus wedi ei falu'n fân, a mynd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd tu ôl i'r llen.

13. Yno mae i roi'r arogldarth ar y marwor, a bydd y mwg o'r thus fel cwmwl yn gorchuddio caead yr Arch, rhag iddo farw.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 16