Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 16:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. Wedyn mae i gymryd padell dân wedi ei llenwi gyda marwor poeth oddi ar yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, a dwy lond llaw o arogldarth persawrus wedi ei falu'n fân, a mynd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd tu ôl i'r llen.

13. Yno mae i roi'r arogldarth ar y marwor, a bydd y mwg o'r thus fel cwmwl yn gorchuddio caead yr Arch, rhag iddo farw.

14. Wedyn mae i gymryd peth o waed y tarw, a'i daenellu ar gaead yr Arch gyda'i fys ar yr ochr sy'n wynebu'r dwyrain. Mae i daenellu'r gwaed fel hyn saith gwaith.

15. “Wedyn mae e i ladd y bwch gafr sy'n offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, a mynd â gwaed hwnnw y tu ôl i'r llen. Mae i wneud yr un peth gyda gwaed y bwch gafr ag a wnaeth gyda gwaed y tarw, sef ei daenellu ar gaead yr Arch.

16. Dyna sut bydd e'n gwneud y cysegr yn lân. Mae'n rhaid gwneud hyn am fod pobl Israel wedi pechu a gwrthryfela yn erbyn Duw. Mae i wneud hyn am fod y Tabernacl yn aros yng nghanol pobl sy'n aflan o ganlyniad i'w pechod.

17. Does neb arall i fod yn y Tabernacl o'r amser mae e'n mynd i mewn i wneud pethau'n iawn hyd yr amser mae e'n dod allan. Bydd e'n gwneud pethau'n iawn ar ei ran ei hun a'i gyd-offeiriaid, ac ar ran pobl Israel.

18. Wedyn bydd yn mynd allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD ac yn ei gwneud hi'n lân. Bydd yn cymryd peth o waed y tarw a gwaed y bwch gafr a'i roi ar bob un o gyrn yr allor.

19. Bydd yn taenellu peth o'r gwaed ar yr allor gyda'i fys. Dyna sut bydd e'n cysegru'r allor a'i gwneud yn lân ar ôl iddi gael ei llygru gan bechodau pobl Israel.

20. “Pan fydd Aaron wedi gorffen gwneud y Lle Mwyaf Sanctaidd, y Tabernacl, a'r allor yn lân, bydd yn mynd â'r bwch gafr byw o flaen y Tabernacl.

21. Mae i osod ei ddwy law ar ben yr anifail tra'n cyffesu beiau pobl Israel a'r holl bethau wnaethon nhw i wrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Mae'r cwbl yn cael ei roi ar ben y bwch gafr, a bydd dyn yna yn barod i arwain yr anifail allan i'r anialwch.

22. Bydd y bwch gafr yn cario holl feiau pobl Israel allan i le unig. Bydd yr anifail yn cael ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.

23. “Wedyn mae Aaron i fynd yn ôl i mewn i'r Tabernacl. Mae i dynnu'r dillad o liain oedd wedi eu gwisgo cyn mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, a'u gadael nhw yno.

24. Mae i ymolchi gyda dŵr mewn lle cysegredig, a rhoi ei wisgoedd offeiriadol yn ôl ymlaen. Yna mae i ddod allan ac offrymu'r offrwm i'w losgi drosto'i hun a'r offrwm i'w losgi dros y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddo'i hun â Duw a rhwng y bobl â Duw.

25. Yna mae i losgi braster yr aberthau dros bechod ar yr allor.

26. “Mae'r dyn wnaeth arwain y bwch gafr byw allan i Asasel yn yr anialwch, i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 16