Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 15:4-18 beibl.net 2015 (BNET)

4. Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.

5-7. Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

8. “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

9. Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan.

10. Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae wedi eistedd arno rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

11. Os ydy'r dyn yn cyffwrdd rhywun heb olchi ei ddwylo rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

12. Rhaid torri unrhyw lestr pridd mae e wedi ei gyffwrdd. Rhaid golchi unrhyw fowlen bren mae e wedi ei chyffwrdd.

13. “Pan mae'r dyn yn gwella o'i afiechyd, saith diwrnod wedyn mae i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr glân.

14. Y diwrnod wedyn mae i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, mynd â nhw o flaen yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r Tabernacl, a'u rhoi nhw i'r offeiriad.

15. Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl iddo wella o'i afiechyd.

16. “Pan mae dyn yn gollwng ei had rhaid iddo olchi ei gorff i gyd mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

17. Os ydy ei had yn cyffwrdd rhywbeth sydd wedi ei wneud o frethyn neu o ledr, rhaid eu golchi nhw. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.

18. Pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig, rhaid i'r ddau ohonyn nhw ymolchi mewn dŵr. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 15