Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 15:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2. “Dywed wrth bobl Israel:“Pan mae dyn yn diodde o glefyd ar ei bidyn, mae'n ei wneud e'n aflan.

3. Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu ryw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso.

4. Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.

5-7. Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

8. “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

9. Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan.

10. Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae wedi eistedd arno rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

11. Os ydy'r dyn yn cyffwrdd rhywun heb olchi ei ddwylo rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 15