Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.