Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:43-59 beibl.net 2015 (BNET)

43. Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff,

44. rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.

45. “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo ei ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’

46. Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.

47-49. “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.

50. Bydd yr offeiriad yn ei archwilio, ac wedyn yn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod.

51-52. Os bydd y llwydni wedi lledu ar ôl saith diwrnod mae'r eitem wedi ei ddifetha ac mae'n aflan. Beth bynnag oedd ei bwrpas rhaid iddo gael ei losgi.

53. “Ond os ydy'r offeiriad yn gweld fod y llwydni heb ledu,

54. rhaid golchi'r eitem, ac wedyn ei osod o'r neilltu am saith diwrnod arall.

55. Wedyn bydd yr offeiriad yn ei archwilio eto. Os ydy'r marc yn dal i edrych yr un fath, mae'r eitem yn aflan – hyd yn oed os nad ydy'r llwydni wedi lledu. Rhaid llosgi'r eitem, sdim ots os ydy'r marc ar y tu allan neu ar y tu mewn.

56. Ond os ydy'r marc ddim mor amlwg ar ôl iddo gael ei olchi rhaid torri'r darn hwnnw i ffwrdd.

57. Ond wedyn, os ydy'r llwydni'n dod yn ôl, rhaid llosgi'r dilledyn neu beth bynnag oedd yr eitem o ledr.

58. Os ydy'r marc wedi diflannu'n llwyr ar ôl cael ei olchi, dylid ei olchi eto ac wedyn bydd yn lân.

59. “Dyma'r drefn wrth benderfynu os ydy dilledyn, neu unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, yn lân neu'n aflan pan mae llwydni wedi ymddangos arno.”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13