Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 13:32-42 beibl.net 2015 (BNET)

32. Os fydd e heb ledu ar ôl saith diwrnod, a dim blew melyn ynddo, ac yn dal yn edrych ddim dyfnach na'r croen,

33. rhaid i'r person siafio. Ond rhaid peidio siafio lle mae'r briw. Bydd yr offeiriad yn dweud fod y person i aros ar wahân i bawb arall am saith diwrnod eto.

34. Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.

35. Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân

36. rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.

37. Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.

38. “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn,

39. rhaid i offeiriad ei archwilio. Os ydy'r smotiau yn lliw gwelw dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.

40-41. “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.

42. Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel mae'n glefyd heintus sy'n lledu.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 13