Rhaid i'r offeiriad archwilio'r briw. Os ydy'r drwg i'w weld yn ddyfnach na'r croen, a'r blew lle mae'r drwg wedi troi'n wyn, rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y person hwnnw yn aflan. Mae'n glefyd heintus wedi torri allan ble roedd y chwydd gwreiddiol.