Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.