Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 1:14-16 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Os mai aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc.

15. Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.

16. Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, a'u taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 1