Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:1-2-11 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus. (Roedd yn cynnwys yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).

3. Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi ei wneud i drefi Jericho ac Ai,

4. dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnynt eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a cario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio.

5. Dyma nhw'n gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a cario bara oedd wedi sychu a llwydo.

6. Wedyn dyma nhw'n mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni.”

7. Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.”

8. Ond dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.”A dyma Josua yn gofyn iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”

9. A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog – dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft,

10. a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i'r Afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.

11. Dyma'n harweinwyr ni, a pobl y wlad i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, a gofyn i chi wneud cytundeb heddwch gyda ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9