Hen Destament

Testament Newydd

Josua 9:13-27 beibl.net 2015 (BNET)

13. A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”

14. Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.

15. Felly dyma Josua yn gwneud cytundeb heddwch gyda nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.

16. Ddeuddydd wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!

17. Symudodd Israel yn eu blaenau, a cyrraedd eu trefi nhw, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearim.

18. Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr.

19. Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!

20. Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw.

21. Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A cawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw.

22. Dyma Josua'n galw'r Gibeoniaid, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni?

23. Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.”

24. Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen chi. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni.

25. Dŷn ni yn eich dwylo chi. Gwnewch beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.”

26. Wnaeth Josua ddim gadael i bobl Israel eu lladd nhw.

27. Gwnaeth nhw yn gaethweision i dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, ac i allor yr ARGLWYDD – ble bynnag fyddai'r ARGLWYDD yn dewis ei gosod. A dyna maen nhw'n ei wneud hyd heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 9