Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.

10. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.

11. Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.

12. Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.

13. Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.

14. Yna'r bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref.

15. Yna dyma Josua a pobl Israel yn cymryd arnynt eu bod wedi eu curo, a troi'n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch.

16. Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref.

17. Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn.

18. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai.

19. Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 8