33. Roedd pobl Israel i gyd yno – Israeliaid a pobl eraill o'r tu allan oedd gyda nhw – yr arweinwyr hŷn, swyddogion a barnwyr yn sefyll bob ochr i'r Arch, o flaen yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Safodd hanner y bobl o flaen Mynydd Gerisim, a'r hanner arall o flaen Mynydd Ebal, fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw wneud ar gyfer y seremoni fendithio.
34. Yna dyma Josua yn darllen yn uchel y bendithion a'r melltithion sydd wedi eu hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith.
35. Darllenodd y cwbl o flaen pobl Israel i gyd, yn cynnwys gwragedd, plant, a'r bobl o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw.