Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8:17-32 beibl.net 2015 (BNET)

17. Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn.

18. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai.

19. Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân.

20. Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, dyma nhw'n gweld y mwg o'r dre yn codi i'r awyr. Doedden nhw ddim yn gwybod lle i droi. Yna dyma byddin Israel, oedd wedi bod yn dianc oddi wrthyn nhw, yn troi ac yn ymosod arnyn nhw.

21. Roedd Josua a'i fyddin yn gweld fod y milwyr eraill wedi concro'r dref, a'i rhoi hi ar dân. Felly dyma nhw'n troi'n ôl ac yn ymosod ar fyddin Ai.

22. A dyma'r milwyr oedd wedi concro'r dref yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi eu dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc.

23. Ond roedden nhw wedi dal brenin Ai yn fyw, a dyma nhw'n mynd ag e at Josua.

24. Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, dyma nhw'n mynd yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno.

25. Cafodd poblogaeth Ai i gyd eu lladd y diwrnod hwnnw – un deg dau o filoedd i gyd.

26. Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi cael eu lladd.

27. Ond cafodd Israel gadw'r anifeiliaid oedd yno, ac unrhyw stwff gwerthfawr roedden nhw am ei gadw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua.

28. Cafodd tref Ai ei llosgi'n ulw gan Josua. Cafodd ei gadael yn domen o adfeilion. Fyddai neb yn gallu byw yno byth eto – ac felly mae hi hyd heddiw!

29. Yna dyma Josua yn crogi brenin Ai, a'i adael yn hongian ar bren nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud dyma Josua yn gorchymyn tynnu'r corff i lawr, a dyma nhw'n ei daflu wrth giât y dref a codi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.

30. Yna dyma Josua yn codi allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar Fynydd Ebal.

31. (Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses – gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

32. Yna, o flaen pobl Israel, dyma Josua yn naddu ar y cerrig gopi o'r Gyfraith ysgrifennodd Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 8