Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na panicio! Dos â'r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i'n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a'i dir, yn dy ddwylo di.

2. Gwna yr un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a'r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i'r dref, yn barod i ymosod arni.”

3. Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o'i ddynion gorau, i'w hanfon allan ganol nos.

4. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i'r dref, mor agos ac y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni.

5. Bydda i'n arwain gweddill y fyddin i ymosod o'r un cyfeiriad ag o'r blaen. Pan ddôn nhw allan o'r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw'r tro dwetha, byddwn ni'n troi'n ôl ac yn ffoi o'u blaenau nhw.

6. Byddan nhw'n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni'n ffoi oddi wrthyn nhw fel o'r blaen.

7. Wedyn byddwch chi'n dod o'r lle roeddech chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi.

8. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 8