Hen Destament

Testament Newydd

Josua 7:12-26 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw'n mynd i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio'r pethau hynny.

13. Dos, a dweud wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â'r pethau hynny.

14. Bore fory, dw i eisiau i chi ddod ymlaen bob yn llwyth. Bydda i'n pigo'r llwyth sy'n euog, a byddan nhw'n dod ymlaen bob yn glan. Yna'r clan bob yn deulu, ac aelodau'r teulu bob yn un.

15. Bydd y person sy'n cael ei ddal gyda'r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a'i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD – peth gwarthus i'w wneud yn Israel!’”

16. Felly dyma Josua'n codi'n gynnar y bore wedyn, a gwneud i bobl Israel ddod ymlaen bob yn llwyth. Llwyth Jwda gafodd ei ddewis.

17. Yna dyma fe'n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach.

18. A pan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal. (Sef Achan fab Carmi, ac ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.)

19. Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i'r ARGLWYDD, Duw Israel, a cyffesu iddo. Dywed beth wnest ti. Paid cadw dim yn ôl.”

20. A dyma Achan yn ateb, “Mae'n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd:

21. Gwnes i weld mantell hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Ro'n i eisiau nhw, felly dyma fi'n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi eu claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda'r arian yn y gwaelod.”

22. Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi ei guddio, gyda'r arian o dan popeth arall.

23. Dyma nhw'n cymryd y cwbl o'r babell, a dod ag e at Josua a pobl Israel, a'i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD.

24. Yna dyma Josua a pobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda'i berthnasau a'i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw a'r arian, y fantell, y bar aur, ei feibion a'i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.)

25. Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â'r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddod â trychineb arnat ti!” A dyma pobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes oedd e wedi marw. A dyma nhw'n gwneud yr un peth i'w deulu, ac yna llosgi'r cyrff.

26. Yna codi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.Doedd yr ARGLWYDD ddim wedi gwylltio wedyn. A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef Dyffryn y Drychineb).

Darllenwch bennod gyflawn Josua 7