Hen Destament

Testament Newydd

Josua 5:9-15 beibl.net 2015 (BNET)

9. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy'r enw ar y lle hyd heddiw.)

10. Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi'n nosi ar ddechrau'r pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma nhw'n dathlu'r Pasg.

11. A'r diwrnod wedyn dyma nhw'n bwyta peth o gynnyrch y tir – bara heb furum ynddo, a grawn wedi ei rostio.

12. Dyna'r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O'r diwrnod pan ddechruon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O'r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw'n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.

13. Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, dyma fe'n gweld dyn yn sefyll o'i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua'n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda'n gelynion ni?”

14. A dyma fe'n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” A dyma Josua yn mynd ar ei wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?”

15. A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua'n gwneud hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 5