Hen Destament

Testament Newydd

Josua 5:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a'r Canaaneaid wedi digalonni'n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu'r Afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i'r gorllewin o'r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir).

2. Bryd hynny dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.”

3. A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef "Bryn y blaengrwyn").

4. Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch.

5. Roedd y dynion hynny wedi eu henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith trwy'r anialwch ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 5