Hen Destament

Testament Newydd

Josua 4:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. gallwch ddweud wrthyn nhw fod yr Afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i'r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”

8. Felly dyma'r dynion yn gwneud yn union fel dwedodd Josua. Dyma nhw'n codi un deg dwy o gerrig o ganol yr Afon Iorddonen (fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua – un garreg ar gyfer pob llwyth.) A dyma nhw'n cario'r cerrig i'r gwersyll, ac yn eu gosod nhw i lawr yno.

9. Dyma Josua hefyd yn gosod un deg dwy o gerrig eraill yn yr union fan lle roedd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch wedi bod yn sefyll. Mae'r cerrig yno hyd heddiw.

10. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely'r Afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Josua wedi ei gyflawni. Yn y cyfamser roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.

11. Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn ei gwylio.

12. Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.

13. Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.

14. Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.

15. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua,

16. “Dywed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 4