Hen Destament

Testament Newydd

Josua 4:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.

15. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua,

16. “Dywed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”

17. Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw.

18. Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.

19. Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf pan groesodd y bobl yr Afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho.

20. Yno dyma Josua yn gosod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi eu cymryd o'r Afon Iorddonen.

21. A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’

22. esboniwch iddyn nhw, ‘Dyma ble wnaeth pobl Israel groesi'r Afon Iorddonen ar dir sych.’

23. Roedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi sychu dŵr yr Iorddonen o'n blaen ni wrth i ni groesi drosodd, yn union fel y gwnaeth sychu'r Môr Coch pan oedden ni'n croesi hwnnw.

24. Gwnaeth hynny er mwyn i bobl holl wledydd y byd gydnabod fod yr ARGLWYDD yn Dduw grymus, ac er mwyn i chi ei barchu a'i addoli bob amser.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 4