10. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario'r Arch ar wely'r Afon Iorddonen nes oedd popeth roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn i Josua wedi ei gyflawni. Yn y cyfamser roedd y bobl yn croesi'r afon ar frys.
11. Pan oedd pawb wedi croesi, dyma'r Arch a'r offeiriaid oedd yn ei chario yn croesi, a'r bobl yn ei gwylio.
12. Roedd y dynion o lwyth Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse wedi croesi o flaen pobl Israel, yn barod i ymladd, fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.
13. Roedd tua 40,000 o ddynion arfog wedi croesi drosodd i ryfela ar wastatir Jericho.
14. Y diwrnod hwnnw gwnaeth yr ARGLWYDD Josua yn arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Roedden nhw'n ei barchu e tra buodd e byw, yn union fel roedden nhw wedi parchu Moses.
15. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua,
16. “Dywed wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch y Dystiolaeth i ddod i fyny o wely'r Iorddonen.”
17. Felly dyma Josua'n gwneud hynny. “Dewch i fyny o wely'r afon!” meddai wrthyn nhw.
18. Dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dod. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y tir sych, dyma ddŵr yr afon yn dechrau llifo eto, a gorlifo fel o'r blaen.
19. Roedd hi'r degfed o'r mis cyntaf pan groesodd y bobl yr Afon Iorddonen, a gwersylla yn Gilgal sydd i'r dwyrain o Jericho.
20. Yno dyma Josua yn gosod i fyny yr un deg dwy o gerrig roedden nhw wedi eu cymryd o'r Afon Iorddonen.
21. A dyma fe'n dweud wrth bobl Israel, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w tadau, ‘Beth ydy'r cerrig yma?’