Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a pan gyffyrddodd eu traed y dŵr dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref sydd wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.