Hen Destament

Testament Newydd

Josua 3:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon.

2. Ddeuddydd wedyn dyma'r arweinwyr yn mynd trwy'r gwersyll

3. i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch.

4. Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”

5. A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”

6. Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 3