Roedd pobl Israel wedi cario esgyrn Joseff o'r Aifft, a dyma nhw'n eu claddu yn Sichem, ar y darn o dir roedd Jacob wedi ei brynu am gant o ddarnau arian gan feibion Hamor, tad Sichem. Roedd y tir hwnnw yn rhan o diriogaeth disgynyddion Joseff.