Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a'n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni'n saff ar y daith, wrth i ni basio trwy dir gwahanol bobl.