Hen Destament

Testament Newydd

Josua 22:20-34 beibl.net 2015 (BNET)

20. “Meddyliwch am Achan fab Serach! Pan fuodd e'n anufudd i'r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i'r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i'w bechod!”

21. Dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud,

22. “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e'n gwybod beth ydy'r gwir, a rhaid i bobl Israel wybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw!

23. “Wnaethon ni ddim codi'r allor i ni'n hunain gyda'r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni'n dweud celwydd!

24. Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â'r ARGLWYDD, Duw Israel?

25. Mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Afon Iorddonen yn ffin glir rhyngon ni â chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli'r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli'r ARGLWYDD.

26. Felly dyma ni'n penderfynu codi'r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni,

27. ond i'n hatgoffa ni a chi, a'n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy'r lle i ni fynd i addoli'r ARGLWYDD, a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â'r ARGLWYDD.’

28. Roedden ni'n tybio, os byddai pethau felly'n cael eu dweud wrthon ni a'n disgynyddion, gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i'w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i'n hatgoffa o'r berthynas sydd rhyngon ni.’

29. “Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i'w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy'r unig un i wneud hynny arni.”

30. Pan glywodd Phineas yr offeiriad, ac arweinwyr llwythau Israel, beth oedd amddiffyniad pobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, roedden nhw'n fodlon.

31. A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni'n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.”

32. Felly dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, a'r arweinwyr oedd gydag e, yn gadael pobl Reuben a Gad yn Gilead, a mynd yn ôl i Canaan i adrodd i weddill pobl Israel beth oedd wedi cael ei ddweud.

33. Roedd pobl Israel yn hapus gyda'r hyn gafodd ei ddweud, a dyma nhw'n addoli Duw. Doedd dim sôn ar ôl hynny am ymosod ar y wlad lle roedd pobl llwythau Reuben a Gad yn byw.

34. A dyma llwythau Reuben a Gad yn rhoi enw i'r allor – “Arwydd i'n hatgoffa ni i gyd mai dim ond yr ARGLWYDD sydd Dduw.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 22