1. Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd,
2. a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd.
3. Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi.
4. Bellach mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i'r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
5. “Ond cofiwch gadw'r rheolau a'r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e'n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i'w addoli â'ch holl galon!”
6. Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a'u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw'n mynd am adre.
7. (Roedd Moses wedi rhoi tir yn Bashan i hanner llwyth Manasse, a tir i'r gorllewin o Afon Iorddonen i'r hanner arall, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe'n eu bendithio nhw:
8. “Ewch adre, a rhannu gyda'ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi ei gymryd gan eich gelynion! – lot fawr o anifeiliaid, arian, aur, pres, haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”